Pwrpas y wefan hon yw darparu gwasanaeth rhannu cofion cyfieithu cyhoeddus i gyfieithwyr sy’n cyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Gall cyrff cyhoeddus ac eraill sy’n dymuno darparu cofion cyfieithu a’u rhannu yn agored lwytho eu cofion i fyny i’r wefan hon, a gall cyfieithwyr o gyrff, sefydliadau a chwmnïau eraill eu llwytho i lawr a’u defnyddio o fewn eu hamgylchedd cyfieithu eu hun.
Wrth wneud hynny gofynnwn i chi barchu’r hawlfraint, yr ymwadiadau, a’r telerau ac amodau sydd ynghlwm wrth y gwahanol gofion cyfieithu a gyflwynir i’r system. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr fod gennych ganiatâd eich corff neu’ch sefydliad cyn llwytho cofion i fyny, a llenwi’r meysydd metadata yn gywir, fel bod modd cadw’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer pob cof cyfieithu gyda’i gilydd.
I ddechrau arni, penderfynwch ai eisiau llwytho ffeiliau cof cyfieithu i fyny i’r system ydych chi, neu a ydych chi am lwytho cofion cyfieithu i lawr i’w defnyddio yn eich system cof cyfieithu eich hun. I lwytho cofion cyfieithu i fyny, ewch i’r adran Uwchlwytho. I lwytho cofion cyfieithu i lawr, ewch i’r adran Lawrlwytho.
Bydd y wefan hon yn tyfu ac yn datblygu gydag amser, a defnyddir y data a gyflwynir iddi hefyd i wella Cyfieithu Peirianyddol Cymraeg, ac adnoddau iaith cyfrifiadurol eraill ar gyfer y Gymraeg.
Datblygwyd y gwasanaeth hwn gan dîm Technolegau Iaith Prifysgol Bangor. Ariannwyd y gwaith gan Lywodraeth Cymru, ac fe’i cefnogir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.